www.LlanelliCommunityHeritage.org

 

Braslun o hanes

FELIN-FOEL


Melinau Felin-foel

 

Yn 1831, disgrifir  pentref  Felin-foel mewn adroddiad seneddol am dref Llanelli. Dywed-

 

‘Y mae clwstwr o Dai ar ochr Ogleddol y Fwrdeistref o’r enw Felin-foel; ond mae pellter rhyngddo a’r dref ac nid yw’n cynnwys ond tri Thŷ £10 ac un yn y broses o adeiladu, Ffermdy fydd hwn; y mae un o’r tri yn Felin , a ddelir ar les y Goron; y mae un arall yn Dŷ i fonheddwr; y mae’r un sy’n weddill yn Dŷ tafarn……..’

 

Yn ôl rhai haneswyr, y mae tystiolaeth i fodolaeth debygol melin ŷd ganoloesol yn y pentref erbyn tua 1399. Dangosir melin a phwll melin yn Felin-foel mewn cynllun sy’n dyddio o’r flwyddyn 1815.

 

Yn ôl traddodiad lleol, ystyr yr enw Felin-foel yw melin ar allt foel, ac fe ddeillia o’r ffaith bod melin gynharach ar yr afon a oedd yn fwy crand na’r felin a gymerodd ei lle. (Sut bynnag, ceir tystiolaeth ddogfennol i brofi taw ‘Melin Voyle’ oedd ei henw yn 1709). Fe ymddengys bod melinau Felin-foel yn cael eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu brethyn yn ogystal a malu ŷd, gwenith neu flawd. Roedd gan fferm Glan Lliedi felin a ddefnyddiwyd i yrru peiriant dyrnu.

 

Yn dilyn adeiladu cronfa ddŵr Cwm Lliedi (Swiss Valley) yn 1878, fe leihawyd llif yr Afon Lliedi gymaint, fel y bu’n rhaid gosod peiriant nwy ym Melin Felin-foel yn 1902 er mwyn gyrru’r peirianwaith. Mae’n drist nodi i’r felin a roddodd ei henw i’r pentref gael ei chwalu yn 1973.

 

 

 

Melin Felinfoel 1815

 

 

 

Cynllyn Felinfoel 1815

 


 

Melin Felinfoel 1900

 

 

 

 

Map Felinfoel 1880

 

‘Beca’n galw heibio am ddiod'

 

Erbyn mis Medi 1843, roedd yr aflonyddwch sifil a adwaenir fel 'Terfysgoedd Beca' ar ôl ysgubo trwy Orllewin Cymru wedi cyrraedd Felin-foel. Yn dilyn eu hymosodiad ar dŷ'r harbwr- feistr yn Llanelli ar Fedi'r 6ed, 1843, fe aeth y terfysgwyr arfog  i dafarn yn Felin-foel lle taniwyd nifer o fwledi gan fygwth y tafarnwr a mynnu cwrw. Yn ôl yr hanesydd Fictorianaidd, John Innes, fe gawson nhw ‘feddwad’! Yn y diwedd, fe ddiflannon nhw i niwl y nos.

 

 

 

 


Glöwyr Felin-foel

 

Er bod llawer o drigolion Felin-foel yn löwyr, nid oedd un lofa o bwys yn y cylch. Fe weithiwyd y gwythiennau o dan y pentref gan amlaf o lofa Gors/Bryngwyn ym mhentref cyfagos Dafen a glofa'r Castell yn Ffwrnes. Yr unig fenter cloddio glo o bwys o fewn cyffiniau'r pentref oedd glofa Llanlliedi (safle fferm Pwll Bach) a weithiai wythïen Bushy rhwng 1837 a 1842 ac a ymgorfforwyd yn ddiweddarach yng nglofa Gors/Bryngwyn. Yn ddiweddarach fe deithiai glowyr Felin-foel  i’w gwaith yn Cross Hands ar reilffordd Llanelli a Mynydd Mawr.


 

 

Christmas Evans 1766-1838

 

Ymwelodd Christmas Evans, un o weinidogion enwoca’r Bedyddwyr â Llanelli yn haf 1794. Pregethodd yno yn yr awyr agored, yn agos i le mae capel Adulam heddiw. Dyma bregeth gyntaf y gweinidog unllygeidiog yn y rhan hon o’r wlad. Dywedir bod y gŵr ifanc, 28 oed, garw a gwledig ei wedd, yn debyg i fwgan brain. Sut bynnag, fe draddododd ei neges efengylaidd gyda’r fath angerdd, fel bod ton gref o frwdfrydedd crefyddol wedi parhau am gyfnod hir yn dilyn ei bregeth.

 

 

 


Rheilffordd / Tramffordd Sir Gaerfyrddin

 

Dechreuodd Rheilffordd Sir Gaerfyrddin weithredu fel rheilffordd a dynnwyd gan geffyl yn cysylltu ffwrnes haearn Alexander Raby ym mhentref Cwmddyche (pentref Ffwrnes nawr) â’i

lanfa ar yr arfordir. Fe’i hymgorfforwyd yn nes ymlaen yn rheilffordd Sir Gaerfyrddin pan basiwyd Deddf Seneddol ym mis Mehefin 1802 yn caniatáu ei hadeiladu. Cysylltai’r rheilffordd ffwrnes Raby a glofeydd eraill ag adnoddau mineral yn ardal Mynydd Mawr ger Cross Hands. Mae cynllun yn dyddio o’r flwyddyn 1801 yn dangos y rheilffordd yn rhedeg yn agos iawn i’r ‘Tŷ Cwrdd, Tŷ Newydd’ (Capel Adulam bellach). Wagenni a gâi eu tynnu gan geffylau ar blatiau tram o haearn bwrw oedd y rheilffordd hon, y rheilffordd weithredol gyhoeddus gynharaf ym Mhrydain. Fe’i disodlwyd yn ddiweddarach gan reilffordd Llanelli a Mynydd Mawr a daeth i ben ar ôl cau glofa Cynheidre. Fe nodir ei thrac yn awr gan lwybr seiclo.

 

 

 

 

 


Adulam

 

Yn ôl y traddodiad, byddai cymdeithas fechan o Fedyddwyr yn cwrdd er mwyn addoli yn ardal Llanelli cyn 1653. Rhestrir John Myles, gweinidog o Ilston (Bro Gŵyr), yn ‘Ddarlithydd’ yno yn 1656. Dywedir taw ‘Melin Isaf’ oedd un o’u mannau cyfarfod. Yn dilyn adferiad y goron yn 1660, gorfodwyd Bedyddwyr i addoli’n ddirgel, gan guddio mewn tai ac ogofâu am fod yr enwadau Anghydffurfiol yn cael eu herlid trwy’r wlad. Un o’r mannau cyfarfod hynny oedd ogof heb fod nepell o Felin-foel mewn lle o’r enw Goetrewen.

Yn 1689, pasiwyd  Deddf  Goddefgarwch Crefyddol yn caniatáu i Anghydffurfwyr addoli’n agored. Adeiladwyd  capel cyntaf y Bedyddwyr yn y fro yn Felin-foel yn 1709. Fe’i hadwaenid wrth yr enw ‘Tŷ Newydd’ tan 1840 pan ailadeiladwyd y capel a mabwysiadu’r enw ‘Adulam’. Byddai hen bwll melin Felin-foel wedi bod yn fan cyfarfod addas ar gyfer seremonïau bedydd y capel. Heddiw, gellir gweld pwll bedyddio pwrpasol yn y pentref, gyferbyn â phont Lliedi.

 

 

 

Goitrewen

 

 

 

Tŷ Newydd

 

 

 

 

Baptismal Pool 1913

 

 

Tŷ Felin-foel

 

Dywedir i Dŷ Felin-foel gael ei adeiladu yn 1803 gan Thomas Hill Cox, brawd yng nghyfraith a phartner busnes i Alexander Raby, y diwydiannwr o Lanelli. Bu diwydiannwr arall, Richard Nevill (1817-1892) yn byw yn y tŷ yn ddiweddarach.

 

Nevill oedd perchennog Gwaith Haearn Marshfield a Ffowndri’r Wern. Chwaraeodd y teulu Nevill ran bwysig yn natblygiad cynnar Felin-foel. Yn dilyn marwolaeth W.Y.Nevill yn 1923, defnyddiwyd y tŷ at sawl pwrpas gan gynnwys cartref i blant. Fe’i dymchwelwyd yn 1978. Ar safle’r tŷ nawr y mae Cartref Preswyl ‘Y Plas’.

 

 


Eglwys y Drindod Felin-foel

 

Adeiladwyd a dodrefnwyd Eglwys y Drindod erbyn diwedd 1857. Fe’i cysegrwyd gan Esgob enwog Tyddewi, yr Hybarch Conop Thirlwall, yn 1858. Cyn adeiladu’r eglwys, caniatâi y teulu Nevill i’w cartrefi yn Westfa a Thŷ Felin-foel gael eu defnyddio ar gyfer yr oedfaon. Cyfrannodd y diwydianwyr C.W. & R. Nevill at ran helaethaf cost adeiladu’r eglwys.

 

 

 

 

 


Ysgol Eglwysig Felin-foel

 

Adeiladwyd Ysgol Eglwysig Felin-foel yn 1863 gyda chymorth y teulu Nevill a oedd yn gefnogwyr brwd i addysg yn Felin-foel. Agorodd ei drysau i 90 o ddisgyblion ym mis Mai'r flwyddyn honno. Yn dilyn cau’r ysgol, fe adleolwyd y disgyblion i Ysgol Gynradd Swiss Valley yn 1969.

 

 

 


Bragdy Felin-foel

 

Dywedir i Fragdy Felin-foel ddechrau fel diwydiant cartref bach yn nhafarn David John, y ‘King’s Head’ yn Felin-foel. Codwyd bragdy mawr ar draws yr Afon Lliedi erbyn 1878, a datblygodd hwnnw i fod y cwmni cyfyngedig presennol yn 1906. Cyrhaeddodd y garreg filltir bwysicaf yn ei hanes ym mis Mawrth, 1936, trwy fod y bragdy cyntaf ym Mhrydain Fawr a’r ail yn yr holl fyd i ganio cwrw’n fasnachol. Mae Felin-foel yn dal i fragu cwrw gyda’r gorau!

 

 

 


Tŷ Westfa

 

Adeiladwyd Tŷ Westfa tua 1845 ar gyfer Charles William Nevill (1815 - 1888). Roedd yn fab i’r diwydiannwr, Richard Janion Nevill. Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1856, cymerodd ofal o’r holl ddiwydiannau gan gynnwys y Gwaith Copor a nifer o byllau glo yn Llanelli. Yn 1888, prynwyd Westfa gan y fferyllydd Gwilym Evans. Ef a gynhyrchai’r ‘Quinine Bitters’ a oedd yn feddyginiaeth leol i bob salwch. Yn ddiweddarach fe drawsnewidiwyd Tŷ Westfa, a gynhwysai dri llawr a 29 o ystafelloedd, yn fflatiau cyn ei ddymchwel yn yr 1980 au.

 

 

 


Ysgol Felin-foel

 

Fe gofnodir bod ysgol ar agor ym mhentref Felin-foel mor gynnar â 1779 yn nhŷ cwrdd y Bedyddwyr, ‘Tŷ Newydd’ (Adulam) o dan brifathrawiaeth David Hughes.

Yn y blynyddoedd rhwng 1822 ac 1848, cynhaliwyd yr ysgol mewn nifer o adeiladau a leolwyd ym mynwent y capel nes y codwyd ysgol fwy parhaol a chyfleus yng nghanol y pentref yn 1848. Erbyn 1951, adeiladwyd ysgol newydd o’r enw ‘Ysgol Y Babanod’ ar gyfer y plant bach. Symudodd y disgyblion iau i’w hysgol newydd yn Ynyswen yn 1975.

 


Rygbi Felin-foel

 

Yn nhymor 1975 - 76, dathlodd Clwb Rygbi Felin-foel ei ganmlwyddiant, gan hawlio teitl y clwb rygbi hynaf yn ardal Llanelli. Yn y blynyddoedd cynnar, capten y clwb oedd William Yalden Nevill, ond y chwaraewr mwyaf enwog a gynhyrchwyd gan y clwb efallai oedd capten tîm rhyngwladol Cymru, Phil Bennett O.B.E., a arweiniodd ei wlad i’r Gamp Lawn yn 1978.

 

 


Casglwyd gan: www.LlanelliCommunityHeritage.org

Lyn John, Ken Jones, Alec Jones, Vaughan Jones, John Williams, Hugh Morgan Lewis, Gwyn Daniel,

 

Celfwaith gwreiddiol gan: John Wynne Hopkins

Cydnabyddiaeth bellach:

Lisa Jones a swyddogion Cymunedau yn Gyntaf Felinfoel,

Stuart Howells, John Phelps, Sandra Jones, Dr David Davies,

Dr Malcolm Symons, John Edwards, Robert Protheroe Jones,

Dafydd Roberts,

Prof Hywel Teifi Edwards, Huw Edwards, Heddyr Gregory,

Mark Jewell a swyddogion, Llyfrgell Llanelli,

John Davies Gwasanaeth Archifau Sir Gâr,

Pwyllgor Capel Adulam,

Phil Lewis Bragdy Felin-foel,

Brian Cripps,

Chris Delaney, Anne Dorset a Staff Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gâr.

 

Pwyllgor Treftadaeth Cymuned Llanelli

John Wynne Hopkins - Cadeirydd.

Lyn John –Is-Gadeirydd.

Ken Jones - Ysgrifennydd

Alec Jones - Trysorydd.

Vaughan Jones –Gwe-Feistr.

John Williams – Swyddog y Wasg.

Hugh Morgan Lewis – Ysgrifennydd Aelodaeth.

Gwyn Daniel –Ysgrifennydd Cyllid .

 

Cyswllt

Ken Jones - Ysgrifennydd - Treftadaeth Cymuned Llanelli,

Tel: 01554 772479.

E-bost: Ysgrifennydd@LlanelliCommunityHeritage.org